South West Wales Tourism Partnership

Rwy ti yma: Cartref arrow Beth Yw PTOC

maint y testun

Beth Yw PTDOC

Beth yw Partneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru?


Gofynnir i Bartneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru weithredu’r strategaeth ranbarthol ar gyfer twristiaeth ‘Ar Agor drwy’r Flwyddyn’, rhaglen o weithredu sydd â’r nod o ymdrin â lledaeniad tymhorol effeithiol twristiaeth mewn dull cynaliadwy, o safbwynt economaidd ac amgylcheddol; yn unol â’r strategaeth genedlaethol ar gyfer twristiaeth, ‘Cyflawni Ein Potensial’.

Yn y flwyddyn ddiwethaf mae Cynllun Gofodol Cymru a’i Gynlluniau Gweithredu Cyfleoedd Twristiaeth (Bae Abertawe a Hafan Penfro) ar gyfer y rhanbarth wedi llywio cynllunio busnes PTDOC yn gynyddol yng nghyd-destun yr uchod.

PTDOC, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn o weithredu, yw’r bartneriaeth twristiaeth ranbarthol sy’n gwasanaethu De Orllewin Cymru.

Dechreuodd Bwrdd Croeso Cymru, Croeso Cymru erbyn hyn, ffurfio 4 partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol ar draws Cymru yn 2002 i dderbyn adnoddau a chyfrifoldebau wedi eu datganoli ar gyfer llawer o agweddau ar gyfer marchnata a datblygu twristiaeth.

Mae rhanbarth PTDOC, a sefydlwyd ar ffurf gysgodol ym mis Medi 2001 ac a ffurfiwyd yn gwmni nid er elw a chyfyngedig drwy warant ym mis Ebrill 2002, yn cyd-ffinio gydag ardal Fforwm Economaidd De Orllewin Cymru.  Mae PTDOC yn gweithio mewn partneriaeth gyda Croeso Cymru, Cyrff Cyhoeddus eraill a Noddir gan y Cynulliad, Awdurdodau Lleol, y sector preifat a mudiadau eraill sydd â diddordeb mewn twristiaeth.

Mae gweithgareddau partneriaeth yn cynnwys marchnata, buddsoddi mewn cynhyrchion a datblygu gweithgareddau cefnogi busnes ar ran y diwydiant twristiaeth.  Cyflenwir y rhan fwyaf o’r gweithgareddau uchod o dan gontract gan drydydd parti oherwydd ffurfiwyd y corff i fod â ffocws strategol yn hytrach na bod yn weithredol yn uniongyrchol.  Mae gan PTDOC dîm gweithredol bychan o staff sy’n gweithredu o dan gostau cynnal llym i gynllunio, rheoli a monitro darpariaeth y gwasanaethau hyn.  Maent hefyd yn adrodd i Fwrdd Rheoli sy’n cynnwys aelodau o’r sectorau cyhoeddus a phreifat.  Mae’r Bwrdd yn gymharol fach, 12 o Gyfarwyddwyr yn ogystal â’r Cyfarwyddwr Strategaeth Ranbarthol, ond mae cyfansoddiad PTDOC yn caniatáu ffurfio is-grwpiau i ganolbwyntio ar agweddau arbennig o’r gwaith - arddangosiad o ymrwymiad PTDOC i weithio mewn partneriaeth.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda chyfanswm trosiant o dros £1 miliwn, gwariwyd £8 o bob £10 a dderbyniwyd mewn cyllid craidd oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, drwy gyfrwng Croeso Cymru, yn uniongyrchol ar brosiectau a sefydliadau gyda’r nod o ddatblygu a chefnogi twristiaeth yn rhanbarth De Orllewin Cymru a chyflawni amcanion economaidd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Beth yw statws a strwythur PTDOC?


Mae PTDOC yn gwmni nid er elw a chyfyngedig drwy warant.  Bob 3 blynedd cynhelir etholiadau sy’n agored i bawb sydd â diddordeb mewn twristiaeth ar draws y rhanbarth i ddewis traean o’r cynrychiolwyr diwydiant.  Mae Awdurdodau Lleol yn enwebu eu cynrychiolwyr.  Mae’r Cyfarwyddwyr yn gwahodd Croeso Cymru a phartneriaid allweddol eraill i fynychu eu cyfarfodydd.  Mae’r Bwrdd yn gymharol fach – 12 o Gyfarwyddwyr a Chyfarwyddwr y Strategaeth Ranbarthol – ond mae cyfansoddiad PTDOC yn caniatáu ar gyfer ffurfio is-grwpiau i ganolbwyntio ar agweddau arbennig o’r gwaith – arddangosiad o ymrwymiad PTDOC i weithio mewn partneriaeth.

Mae PTDOC yn gweithio o fewn ffiniau llym o ran costau cynnal ac felly mae ei staff craidd wedi ei gyfyngu i 3.5 (Cyfarwyddwr, Swyddog Prosiect, Rheolwr Swyddfa a Swyddog Gweinyddol (rhan amser)).  Mae’r PTDOC yn gweithredu fel corff galluogi a chomisiynu, gan weithio drwy eraill i gyflenwi ei amcanion.

O ble y daw adnoddau ariannol PTDOC?


Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy Croeso Cymru yn darparu’r cyllid craidd ar gyfer PTDOC sydd, ynghyd ag adnoddau eraill a ddynodwyd, yn rhoi cyllideb o tua £1 miliwn.  Mae gweithio drwy bartneriaeth gyda busnesau twristiaeth, asiantaethau’r llywodraeth, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill yn ychwanegu’n sylweddol at y ffigur hwn.

Sut bydd PTDOC yn gwybod ei bod yn llwyddo?


Mae’r holl weithgaredd yn cael ei fonitro’n agos.  Caiff gweithgaredd PTDOC ei adolygu’n rheolaidd mewn cyfarfodydd ffurfiol ac mae’n adrodd i Croeso Cymru, Partneriaethau Awdurdodau Lleol a rhwydweithiau Cymdeithasau Masnach.

Defnyddir STEAM (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor) a data arolygon cenedlaethol, ynghyd â gwerthuso a monitro sy’n gysylltiedig ag ymgyrchoedd marchnata i fesur tueddiadau yn erbyn targed y strategaeth o dwf o 17% y flwyddyn mewn gwariant twristiaeth ac i feincnodi De Orllewin Cymru yn erbyn cyrchfannau eraill.

Gosodir targedau ar gyfer prosiectau unigol o hyfforddiant i farchnata yn seiliedig ar drosoledd ar gyfer buddsoddiad ac elw ar wariant.  Mae astudiaethau trosi ac olrhain yn cael eu cynnwys o fewn gweithgaredd.

Sut mae PTDOC yn cyfathrebu?


Nid yw PTDOC yn gorff aelodaeth masnach ei hun ond mae’n cefnogi ac yn cynorthwyo gyda datblygu a gwella’r rhwydwaith masnach yn y rhanbarth. Sefydlir llwybrau cyfathrebu ffurfiol gyda mudiadau rhanddeiliaid allweddol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.  Mae PTDOC yn cynnal gwefan gwybodaeth ac yn cyhoeddi bwletinau rheolaidd.  
Penderfynodd PTDOC gadw gwariant ar gysylltiadau cyhoeddus corfforaethol i isafswm ac yn hytrach mae’n gweithio gyda’n partneriaid i ddosbarthu newyddion a chyfleoedd a thrwy hynny yn cadw cyllid craidd ar gyfer dosbarthu prosiectau uniongyrchol.

Beth yw Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol?


Sefydlwyd pedair Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol yng Nghymru yn 2001, sy’n cyd-ffinio gyda phedair ardal y ffora economaidd rhanbarthol.  Prif rôl y Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol yw arwain y gwaith o weithredu’r strategaethau twristiaeth rhanbarthol sy’n ceisio gwella natur gystadleuol a pherfformiad eu rhanbarthau. Nod sylfaenol pob un o’r pedair strategaeth dwristiaeth ranbarthol yw sicrhau bod twristiaeth yn gwneud gwell cyfraniad at ffyniant cymdeithasol ac economaidd nid yn unig y rhanbarth unigol ond Cymru’n gyffredinol.

Mae Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol yn gweithio mewn partneriaeth gyda Croeso Cymru (Bwrdd Croeso Cymru yn flaenorol), Awdurdodau Lleol, y sector preifat a chyda sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn twristiaeth.  Mae gweithgareddau mewn partneriaeth yn cynnwys marchnata, buddsoddi a datblygu cynnyrch a gweithgareddau cefnogi busnes ar ran y diwydiant twristiaeth.  Cyflenwir y rhan fwyaf o’r gweithgareddau hyn o dan gontract gan drydydd parti.   Mae gan y Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol dimau gweithredol bychain o staff sy’n cynllunio, rheoli ac yn monitro darpariaeth y gweithgareddau hyn o dan gontract sy’n adrodd i Fwrdd Rheoli sy’n cynnwys Cyfarwyddwyr o’r sector cyhoeddus a phreifat.

Mae Croeso Cymru yn datganoli cyllid i’r pedair Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol i gefnogi’r gweithgareddau hanfodol a arweinir yn strategol a gyflenwir.  Mae hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol i sicrhau yr osgoir dyblygu ac i sicrhau bod adnoddau prin yn cael eu defnyddio’n effeithiol er budd y diwydiant twristiaeth ac iechyd economaidd Cymru.

Mae’r pedair Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol (Twristiaeth Rhanbarth y Brifddinas – yn ymdrin â De Ddwyrain Cymru, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru a Phartneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru) yn atebol am y cyllid a ddatganolir iddynt gan Croeso Cymru sy’n cytuno ar gynlluniau busnes blynyddol y Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol.  Maent hefyd yn derbyn adroddiadau cynnydd chwarterol ac yn monitro perfformiad y Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol yn erbyn targedau a gytunwyd.