 Croeso i swwtp.co.uk
Ydym am i ymwelwyr fwynhau’r rhanbarth ym mis Rhagfyr gymaint ag y maent yn ei wneud ym mis Gorffennaf ac, yn hytrach nag annog niferoedd enfawr o ymwelwyr i ddod am arhosiad byr, hoffem i’r rhai hynny sy’n dod dreulio mwy o amser yma yn teithio drwy’r rhanbarth ac yn mwynhau cyfleusterau sy’n mynd yn llai a llai dibynnol ar y tywydd ac sy’n gynaliadwy o safbwynt amgylcheddol ac economaidd. Yng nghyd-destun polisïau cenedlaethol fel Cynllun Gofodol Cymru mae pob darn o waith y mae Partneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru (PTDOC) yn ei wneud yn anelu at y nod hwn. Yn y flwyddyn ddiwethaf hon, unwaith eto, o bob £10 a dderbyniodd PTDOC mewn cyllid craidd drwy Croeso Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mae £8 wedi mynd yn syth yn ôl i gwtogi ar natur dymhorol twristiaeth a gwella perfformiad a chynhyrchiant. Nid dim ond ar gyfer yr economi twristiaeth ‘bur’ ond holl economi ymwelwyr De Orllewin Cymru - o dafarndai i orsafoedd petrol i siopau yn ogystal ag atyniadau a llety.
Yn y 12 mis diwethaf mae rhywfaint o’r cyllid a dderbyniwyd drwy Croeso Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyfrannu at:- Gryfhau’r 3 o Gymdeithasau Masnach ‘rhanddeiliaid’ – sydd â dros 1100 o aelodau
- Dros 1000 o bobl yn cymryd rhan mewn cynlluniau hyfforddi o dan arweiniad Gallu
- Cefnogaeth barhaus a thwf ar gyfer twristiaeth busnes thematig o dan arweiniad consortia ac ymgyrchoedd marchnata tramor
- 35 o staff Canolfannau Croeso yn cymryd rhan mewn hyfforddiant rhanbarthol i draws-hyrwyddo’r rhanbarth
- Cefnogaeth i fentrau trafnidiaeth gynaliadwy megis cynllun peilot tacsi dŵr Cyswllt Hafan Penfro a Rheilffordd Calon Cymru
- Cefnogi sioeau teithiol a dyddiau agored gan ddiwydiannau allweddol
- Digwyddiadau mawr fel Sioe Gychod De Cymru, Wythnos Pysgod Sir Benfro, Gŵyl Gerddi Cymru a Gŵyl Dylan Thomas
- Prosiectau ymchwil strategol, arolygon ymwelwyr a busnes
|