South West Wales Tourism Partnership

Rwy ti yma: Cartref arrow Newyddion A Safbwyntiau arrow Astudiaethau Achos arrow Astudiaeth Achos: Gwefannau Ymgyrchoedd Cynhyrchion

maint y testun

Astudiaeth Achos: Gwefannau Ymgyrchoedd Cynhyrchion PDF Argraffu  E-bost
Cafodd yr holl ymgyrchoedd marchnata a arweinir gan gonsortia Partneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru (PTDOC) eu hail-ddylunio yn 2005.  Erbyn hyn mae holl weithgaredd yr ymgyrchoedd wedi eu seilio ar gyfryngau ar-lein er mwyn dileu dyblygu ymdrech, ychwanegu gwerth i fusnesau a sefydliadau rhanbarthol a dangos arfer gorau yng nghyd-destun dylunio gwefannau, gan ymgorffori deddfwriaeth y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac egwyddorion moesegol gweithgaredd y cyfryngau newydd.  Aeth y gwefannau newydd yn fyw ym mis Ionawr 2006.

Mae dyluniad y gwefannau wedi ei seilio ar dair brif egwyddor:

  • bod yn gyflenwol yn hytrach na dyblygu beth sydd yna’n barod a manteisio ar farchnata antur cenedlaethol i fusnesau a chyrchfannau rhanbarthol. Dewiswyd safle www.AsWildAsYouWantIt.com yn ddiweddar fel astudiaeth achos arfer da gan ymgynghorwyr ar gyfer y Fframwaith Gweithgaredd Awyr Agored newydd sy’n cael ei baratoi, trwy gyfrwng Croeso Cymru/LlCC
  • bod yn “arfer gorau” o ran y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac egwyddorion dylunio cyffredinol (cafodd un o’r gwefannau, www.onebiggarden.com, ei dewis fel gwefan newydd y mis gan Urdd y Dylunwyr Gwe Hygyrch yn union ar ôl ei lansio tra cafodd un arall, www.inspirationalwales.com, ei chynnwys ar restr fer Gwobrau Gweledigaethol RNIB)
  • bod yn sylfaen i a chynorthwyo i ddatblygu Croeso Cymru – h.y. annog poblogi croesocymru.com drwy integreiddio cyn belled ag sy’n bosibl â’r System Rheoli Cyrchfannau genedlaethol a’i gweithgaredd.

Roedd gwariant ar y gwefannau o fanylebau swyddogaethol hyd at ddylunio ac optimeiddio’r testun ac ati yn tua £25,000 y wefan.  Mae’r gwariant blynyddol ar gyfer pob ymgyrch (i gynnwys yr holl weithgaredd a datblygiad parhaus y gwefannau) oddeutu £75-80,000.  Mae incwm partneriaid yn cyfrannu tua £25-35,000.

Cafodd y gwefannau eu hoptimeiddio yn wreiddiol ar gyfer Peiriannau Chwilio ac maent yn parhau i gael eu hadolygu a’u hail-optimeiddio gan Spannerworks (www.spannerworks.com) gyda mewnbwn gan ein hasiantaeth Designate a hefyd y consortia a phwyllgor gweithredol PTDOC.

Mae Optimeiddio’r Peiriannau Chwilio (SEO) yn profi’n effeithiol oherwydd yn y 2 fis diwethaf mae’r holl wefannau yn parhau i gynyddu mewn amlygrwydd a pha mor aml y maent yn ymddangos yn yr 1-10 safle ar Beiriannau Chwilio gan gynnwys Google ac Yahoo (gan 15% ar gyfartaledd).

Erbyn diwedd haf 2006, rhagwelir y bydd y ffigyrau ar gyfartaledd yn 4000 o ddefnyddwyr unigryw bob mis ar gyfer pob gwefan yn codi i isafswm o 6000 y mis erbyn hydref 06.

Yn hollbwysig, rydym yn edrych i sicrhau cyfradd o 20% yn symud ymlaen o dudalen gyffredinol i dudalen gweithredwr erbyn yr hydref.

Mae’r uchod yn un o egwyddorion sylfaenol eraill pob un o dair gwefan yr ymgyrchoedd.

h.y. mae ymgyrchoedd yn anelu at fachu ymwelwyr i mewn drwy gyfuniad o SEO da ac e-lythyrau/e-bostiadau ac ati ac yna sicrhau eu bod yn gadael y wefan ar ôl darganfod y ddolen i’r union beth y mae arnynt ei angen.  Gall hyn fod yn fwy o wybodaeth fanwl am gyrchfannau neu’n fanylion cyswllt gweithredwyr penodol.  Mae’r olaf yn amlwg yn dibynnu’n drwm ar fod y gweithredwyr yn manteisio ar yr arweiniad ar gyfer busnes a’u trosi’n fusnes go iawn.

O safbwynt tracio’r trosi ar lefel gweithredwr, yn flaenorol rydym wedi dibynnu’n drwm ar adborth mewn cyfarfodydd ac ystadegau sylfaenol ar y we.  Fodd bynnag, o fis Mehefin 06 ychwanegwyd at y ffigyrau o ran lefel y manylder drwy ddefnyddio ‘Hitbox’, rhaglen ystadegau gwe manwl.  Bydd ymddygiad penodol ymwelwyr â’r safleoedd mewn perthynas â diddordeb yn y cynnyrch (h.y. tudalennau cyrchfannau, sector a gweithredwyr) yn cael eu monitro ymhellach.  Bydd hyn yn darparu data ychwanegol sy’n hanfodol ar gyfer cyfrifiadau ROI ac yn llywio cynllunio ymgyrchoedd yn y dyfodol, a blaenoriaethau buddsoddi yng nghyd-destun dyrannu adnoddau.

Talu fesul Clic

Mae gweithgaredd Talu fesul Clic wedi ei gyfyngu oherwydd ein bod yn gweithio ar draws y consortia i geisio sicrhau nad ydym i gyd yn cynnig am delerau tebyg oherwydd rhwng gweithgaredd cenedlaethol, gweithgaredd lleol ynglŷn â chyrchfannau a gweithgaredd gweithredwyr preifat mae hyn yn berygl galwedigaethol.  Mae’r ymgyrchoedd, yn ôl natur y bartneriaeth y maent yn gweithredu o’i mewn, yn ceisio cydbwyso’r angen am fwy o draffig i safleoedd yn gyson heb i hynny olygu dyblygu gweithgaredd.

Manteision i’r ymagwedd a fabwysiadir (h.y. wedi ei arwain gan gonsortia ac wedi ei seilio ar-lein)

Ymgysylltu a chydweithredu rhanbarthol e.e. gofynnir i bartneriaid consortia gytuno i ddogfen cylch gorchwyl.

Mae hyn yn golygu bod clwstwr o weithredwyr (cymaint â 20 o sefydliadau weithiau) yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod ystod o faterion, nid dim ond marchnata.

E.e. drwy’r ymgyrch gweithgaredd anogir y ‘clwstwr’ i ymrwymo i Lefel 2 y Ddraig Werdd a chyfnewid mwy o arfer gorau o ran rhannu arfer amgylcheddol a busnes.  Am y rheswm hwn mae cyfleuster ‘bwrdd bwletin’ yn gweithredu bellach ar y safle i aelodau.

Mae’r Consortia, a ddygwyd ynghyd yn wreiddiol gyda’r gweithgaredd marchnata yn bwysigrwydd craidd iddo, mewn sefyllfa bellach i gynorthwyo gyda chyflawni amcanion marchnata cenedlaethol yn fwy effeithiol drwy gyfranogiad mewn gweithgaredd ar-lein a DM, gwaith arddangos (e.e. mae ardal Gorllewin Gwyllt Cymru yn cael ei staffio gan weithredwyr ar stondin gyffredinol Cymru) a hefyd drwy ddarparu cynnyrch ar gyfer cyfathrebu e-bost, cystadlaethau a gwaith gyda siopau a gwaith ar-lein ac o ganlyniad mae ganddynt sianel well i hyrwyddo eu busnesau/sefydliadau eu hunain.

Mae De Orllewin Cymru fel rhanbarth yn hyrwyddo creu mwy o gynnyrch (o’i gymharu â rhannau eraill o Gymru) i’w gyflwyno ar Croeso Cymru o ganlyniad i’r nifer calonogol o weithredwyr llety a gweithgareddau sy’n cofrestru fel dull cyfranogi.

Argraffu:  Mae’r penderfyniad i argraffu niferoedd bychan o gyhoeddiadau o ansawdd uchel wedi cael derbyniad da ac yn llawer mwy economaidd o ran adnoddau ariannol ac amser.  Defnyddir deunydd wedi ei argraffu mewn digwyddiadau penodol ar gyfer gweithgaredd partneriaeth (e.e. Sioe Awyr Agored yn yr NEC lle bu gweithredwyr Gorllewin Gwyllt Cymru yn rhannu gofod gyda Croeso Cymru).

Am y tro cyntaf, ac oherwydd ei fod o ansawdd mor uchel, derbyniwyd deunydd argraffedig ymgyrch cynnyrch diwylliannol, ‘De Orllewin Cymru Ysbrydoledig’, i’w arddangos yng Ngŵyl Lenyddiaeth y Gelli Gandryll – gŵyl sy’n hynod anodd cael mynediad iddi o ran dosbarthu deunydd argraffedig.

Anogir defnyddwyr i ddefnyddio’r cyfleuster cynllunio teithiau ar-lein i deilwra eu diddordebau eu hunain ac argaeledd y cyfleuster hwn yw un o’r prif negeseuon a roddir mewn gweithgaredd marchnata.

Yn gyffredinol, mae’r ymgyrchoedd, yn ôl natur y bartneriaeth y maent yn gweithredu o’i mewn, yn ceisio cydbwyso’r angen am fwy o draffig i wefannau gyda pheidio â dyblygu gweithgaredd h.y. bod mor gystadleuol â phosibl yn allanol ond peidio â bod yn gystadleuol yn fewnol.

Gweithgaredd yn y Dyfodol

Bydd gweithgaredd yn y 12 mis nesaf yn canolbwyntio ar:

SEO - adolygu ac ychwanegiadau (wedi ei seilio ar ddigwyddiadau yn benodol)
PPC dethol
gweithgaredd cadw a chaffael – hysbysebu drwy’r post, ar e-bost ac ar-lein gyda safleoedd penodol (e.e. Surfers against Sewage, RHS ac ati)
cyfathrebu gyda’r gronfa ddata gyfredol – tua 20,000 ar hyn o bryd yn
defnyddio rhestrau Caffael a’r gweithgaredd uchod i annog pobl i ymrwymo i ymuno â’r gronfa ddata ar gyfer digwyddiadau /cynigion arbennig ac e-gyfathrebu
prynu i mewn i weithgaredd Croeso Cymru pan fo hynny’n briodol (e.e. mae lefelau presennol y ceisiadau drwy weithgaredd Antur yn oddeutu 10,000 ers i’r cydweithio ddechrau)
cyfyngu ar gynhyrchu argraffedig, a hynny ar gyfer gwaith arddangos yn unig i gynyddu traffig i wefannau ac annog y defnydd o gyfleuster cynllunio teithiau
Ychwanegiad newydd h.y. cylchlythyrau e-bost Partneriaid/Consortia - aeth y cyntaf allan ddiwedd mis Mehefin.  Mae’n darparu diweddariadau yn chwarterol, dolenni i eitemau newyddion ac enghreifftiau o weithgaredd a chyngor am ddatblygu busnes ar-lein.
 
Next >