Ymgyrch Marchnata Gerddi a Pharcdiroedd "Un Gardd Fawr" www.onebiggarden.com
Mae ‘Un Gardd Fawr’ (Is-bennawd ‘Camu i Dde Orllewin Cymru’) yn ceisio tynnu sylw at erddi a mannau gwyrdd De Orllewin Cymru. Amrywia’r rhain o atyniadau gerddi fel Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Aberglasney, Clun a Singleton a Plantasia yn Abertawe, Parc Gwledig Margam ac eraill hyd at Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf y DU, Penrhyn Gŵyr, ac unig Barc Cenedlaethol arfordirol y DU, yn Sir Benfro.
Ffurfiwyd Consortiwm yr Un Gardd Fawr tua diwedd 2002 ac mae’n cynnwys Partneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, Cymdeithas Dwristaidd Sir Gaerfyrddin, Twristiaeth Bae Abertawe a Thwristiaeth Sir Benfro ac atyniadau Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Aberglasney, Canolfan Gwlyptiroedd Genedlaethol – Cymru, Eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sef Gerddi Coedlannau Colby a Pharc Dinefwr, Parc Gwledig Margam, Canolfan Treftadaeth Gŵyr, Castell Picton a Chanolfan Hywel Dda, Hendy-gwyn.
Bwriedir i’r wefan sy’n bodoli ddenu marchnadoedd targed penodol a fydd yn denu ymwelwyr newydd i’r rhanbarth a datblygu ar waith partneriaid isranbarthol cenedlaethol.
I weld rhywfaint o’r hysbysebu ar-lein ar gyfer ‘Un Gardd Fawr’ sy’n ymddangos ar safleoedd fel y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, cliciwch ar y ddolen isod: Un Gardd Fawr Amcanion yr Ymgyrch
Drwy weithredu ymgyrch yr Un Gardd Fawr, mae PTDOC yn dymuno:
Hyrwyddo gerddi a pharcdiroedd De Orllewin Cymru yn bennaf i ddefnyddwyr a hefyd i gynulleidfaoedd y fasnach deithio. Cynyddu ymweliadau i erddi ac arosiadau dros nos gan rai sy’n cymryd egwyliau byr a grwpiau Annog rhyngweithio rhwng aelodau’r consortiwm i gynorthwyo i greu cynlluniau ar y cyd (tocynnau, teithiau gerddi, llety hollgynhwysol a phecynnau mynediad, digwyddiadau) Marchnad darged
Diffinnir marchnad darged yr Un Gardd Fawr fel:
Rhai sy’n cymryd egwyliau byr: 45-74 oed, sy’n byw yn y de orllewin, y de ddwyrain, Llundain a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Yn 2002/3 roedd tuedd sylweddol tuag at ferched ar gyfer y cynnyrch hwn. Y fasnach deithio: Gweithredwyr teithiau a bysiau, trefnwyr grwpiau, y wasg deithio Cynnyrch
Mae’r cynnyrch y mae consortiwm yr Un Gardd Fawr yn ei gynrychioli yn cynnwys tir y parc cenedlaethol, parciau a gerddi sy’n eiddo i’r awdurdod lleol a gerddi ac atyniadau preifat.
Ewch i www.swwtp-consortium.co.uk am ragor o wybodaeth.
|